Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Butter box
Blwch menyn cafodd ei creu o bren masarnen yng ngweithdy William Rees yn Aber-banc, ger Aberteifi, 1925.
William Rees o Aber-banc oedd turniwr pren olaf ei linach. Creu offer pren ar gyfer y gegin a’r llaethdy oedd ei arbenigedd – powlenni, sletennau llaeth, llestri caws, llwyau a lletwadau. Roedd William Rees yn gwerthu’i gynnyrch mewn ffeiriau a marchnadoedd lleol. Ond erbyn y 1930au, prin oedd y galw am gynnyrch pren wrth i gerameg a gwaith enamel a fasgynhyrchwyd gymryd ei le. William Rees oedd y turniwr olaf i ennill bywoliaeth o’r grefft yn y sir.
Pwnc
Bywyd Gwerin
Rhif yr Eitem
25.500.4
Creu/Cynhyrchu
Rees, William
Dyddiad: 1925
Derbyniad
Donation
Mesuriadau
Lleoliad
In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.