Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Addurnwyd y ddysgl hon â golygfa William Edward o’r bont dros Afon Taf llawn llif ym Mhontypridd. Saif y bont tua pum milltir o Nantgarw a mwy na thebyg i’r olygfa gael ei seilio ar waith darlunio yn y man a’r lle gan Pardoe. Mae’r hanshys wedi’u tyllu i leihau’r pwysau ac ar ei chwblhau ym 1756 hon oedd pont un bwa hiraf y byd. Tyfodd yn gyflym yn un o atyniadau de Cymru, gan ddenu artistiaid cyn enwoced â Richard Wilson a J M W Turner hyd yn oed. Fel mwyafrif helaeth porslen addurnedig Nantgarw, mwy na thebyg taw ar gyfer cwsmer lleol y cafodd y ddysgl ei haddurno. Er bod y llythrennau arni’n ymdebygu i JW, ceir tystiolaeth taw’r perchennog oedd Thomas Williams (Gwilym Morgannwg, 1778-1835), bardd a thafarnwr o Bont-y-pwl fu farw ym Mhontypridd.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.