Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
CAMBRIAN HILLS (painting)
Adeiladwyd llong tri hwylbren y Cambrian Hills gan A. Rodger & Co., Port Glasgow, ym 1892 ar gyfer Thomas Williams & Co., Lerpwl. Capten Williams oedd cyn uwch-arolygydd morol y 'Black ball Line' enwog cyn dod yn berchennog llongau ddechrau'r 1870au. Bu farw ym 1880, ac yn 1896-97, daeth ei lynges yn eiddo i William Thomas, Cymro a pherchennog llongau arall o Lerpwl. Dechreuodd y Cambrian Hills lenwi â dŵr a suddo oddi ar Ynysoedd Scilly ym mis Mawrth 1905.