Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Banner
Yr artist Mary Lloyd Jones baentiodd y faner hon ar gyfer ymgyrch 'Artistiaid Dros Gymru' / IE dros Gymru yn Refferendwm 1997. Roedd yn rhaid i bobl Cymru benderfynu a oeddent am gael cynulliad a phwerau wedi’u datganoli ai peidio. Bwrodd 50.3% o’r etholaeth eu pleidlais. Trwch blewyn oedd rhwng y ddwy ochr. Roedd 552,698 yn erbyn a 559,419 o blaid, sef mwyafrif o 6,721. Ar sail hyn, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.