Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tankard
Un o nifer o gostreli a thancardiau a roddwyd yn anrhegion i’w ffrindiau gan Syr Edmund Berry Godfrey (1621-1678). Yn ôl yr arysgrifiad roedd Godfrey yn ynad yn San Steffan a weithiodd i gofnodi cynnydd Pla Mawr Llundain a derbyn plât mawr yn wobr gan y brenin. Mae hefyd yn cofnodi ei urddo’n farchog ym 1666, am ei waith yn ystod Tân Mawr Llundain. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach trosodd ei rodd brenhinol yn nifer o dancardiau’r ‘Pla a’r Tân’. Rhoddwyd yr esiampl hon i Thomas Lamplugh (1618-1691), Archesgob Caerefrog.