Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Sir Roger Mostyn (1559/60-1642)
Priododd Roger Mostyn (1559/60-1642) o Neuadd Mostyn, Clwyd â Mary, merch Syr John Wynn o Wydir. Yr oedd yn ddyn amlwg iawn yng Ngogledd Cymru ac urddwyd ef yn farchog ym 1608. Bu'n Siryf Môn ym 1589-90, Sir y Fflint yn 1608-09, 1626-27 ac yn AS Sir y Fflint ym 1621-2.
Mae'r llun yn seiliedig ar bortread maint llawn o'r gwrthrych, dyddiedig 1634, sydd yn Neuadd Mostyn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.