Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
ADMIRAL SCHEER - Convoy HX84 Under Fire (painting)
Mae'r llun yma yn cofnodi un o ddigwyddiadau enwog y rhyfel ar y môr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar 5 Tachwedd 1940, ymosodwyd ar gonfoi HX84 gan y llong ryfel Almaenig Admiral Scheer. Ym amddiffyn y confoi oedd H.M.S. Jervis Bay a ymosododd yn ddewr ony yn ofer ar yr Admiral Scheer. Saethwyd y Jervis Bay yn ddeilchion, a gwelir y fflamau yn codi ohoni ar ben y llun. Y llong yn y canol yw'r Cornish City o eiddo cwmni Reardon Smith, caerdydd, tra yn y cefndir gwelir y tancyr San Demetrio yn cael ei tharo. Wedi gadael y San Demetrio, fe aeth yr criw yn ôl ar fwrdd y tancyr yn hwyrach, gan lwyddo i ddod â'r llong a'i chargo gwerthfawr o betrol yn ôl i Brydain. Rhoddwyd V.C. ôl-argraffedig i Capten Fogarty fegan, meistr y Jervis Bay. Paentiwyd y llun i gwmni Reardon Smith, Caerdydd.