Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pwnsh ola’r Cloc
Mae David Garner yn adnabyddus am ei osodweithiau o wrthrychau a ddarganfuwyd sydd ag atseiniau cymdeithasol a gwleidyddol dwfn. Mae Pwnsh ola’r Cloc ar ffurf peiriant clocio i mewn o ffatri gwaith metel, lle byddai gweithwyr yn clocio i mewn ac allan o'u sifft. Wrth ymyl y peiriant saif pigyn metel uchel sy’n cynnwys pentwr o'r cardiau tyllog, sy'n cynrychioli oes o waith.
Mae'r gosodwaith yn galarnadu am ddiwydiant coll yn y de ac yn deyrnged i fywyd gwaith ei ddiweddar dad.
Pwnc
Celf
Rhif yr Eitem
NMW A 24812
Derbyniad
Purchase - ass. of DWT, 1/2015
Purchased with support from The Derek Williams Trust
Mesuriadau
Deunydd
found objects
Lleoliad
In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.