Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Katherine Cox (1887-1938)
Bu Grant yn astudio yn Ysgol Gelf Westminster ac ym Mharis. Darganfu ôl-Argraffiadaeth drwy arddangosfeydd arloesol Roger Fry ym 1910 a 1912. Peintiwyd y portread hwn yn y flwyddyn y gwnaed Grant yn gyfarwyddwr Gweithdy Omega Fry. Mae ei liwiau trwchus yn ein hatgoffa o Matisse a'r Fauves. Roedd Katherine neu 'Ka' Cox (1887-1934) yn aelod o gylch Rupert Brooke a elwid yn Neo-Baganiaid. Roedd yn arbennig o gyfeillgar â Virginia Woolf, a byddai'n aml yn eistedd i Duncan Grant ym 1912-13. Byddai Cox yn gwisgo mewn ffordd arbennig iawn a bron bob amser yn gwisgo 'pince-nez.'