Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Dyma stribed tenau, petryal o aur, sydd wedi’i grymu i ffurf breichdlws neu freichled. Cafodd ei forthwylio ar hyd y ddau ymyl hir i ffurfio border uwch sy’n estyn i mewn ac allan ac mae dau ben y stribed wedi’u morthwylio tuag allan i wneud ymyl finiog estynedig. Mae bandyn llydan y breichdlws yn blaen a diaddurn. Mae stribed main arall wedi’i lapio o gwmpas corff y freichled bron ddwywaith. Ni wyddom beth yw’r stribed ac efallai mai ‘cloi’ y terfynellau yn eu lle oedd ei ddiben. Mae twll yn un pen i’r stribed ond ni wyddom beth oedd ei ddiben. Difrodwyd y freichled, wrth ei chodi o’r ddaear mae’n fwy na thebyg, gan greu wyneb garw, rhychiog.
Project Title: Gold in Britain’s auriferous regions, 2450-800 BC: towards a coherent Research Framework and Strategy. Status: Arts & Humanities Research Council (AHRC) Network Grant funded project (2018-2019)
WA_SC 18.1
Enw'r Safle: Capel Isaf House, Manordeilo
Nodiadau: Hoard. Four gold armlets and one gold fragment were found in September 1975 near the town of Llandeilo while excavating a sewer trench. The objects were apparently “wrapped round each other” and were probably buried beneath a large glacial erratic slab. This slab may have acted as a marker in prehistory.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.