Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Cyfrannwch
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Cyfrannwch
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Tudalen Hon: Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • Amdanom Ni
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Siop
  • Cefnogwch ni
  • Digwyddiadau
  • Cymryd Rhan
  • Iechyd a Lles

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Holiadur | questionnaire

Davies, W. Beynon (Aberystwyth) ()

Nodiadau manwl yn y Gymraeg gan W. Beynon Davies (Ciliau Aeron) ar 'Ddiwylliant Gwerin Dyffryn Aeron a Chanolbarth Ceredigion' yn ateb i Holiadur 1937 yr Amgueddfa Genedlaethol ar ddiwylliant gwerin Cymru. Holwyddoreg ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, 1937 Paratowyd gan Adran Diwylliant Gwerin Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chyhoeddwyd yn Rhagfyr 1937. Anfonwyd yr holiadur i blwyfi, ysgolion a unigolion fel modd o gasglu gwybodaeth am bob agwedd o ddiwylliant gwerin Cymru. Rhannwyd yr holiadur o dan y pynciau canlynol: cartref ac aelwyd, bywyd corfforedig, bywyd diwylliannol, crefftau a diwydiannau. Roedd yr amgueddfa yn awyddus i ymgysylltu gyda phobl Cymru a chydweithio gydag atebwyr yr holiadur wrth fynd ati i gasglu hanesion a gwrthrychau fel sail i sefydlu Amgueddfa Werin Cymru yn 1948.

**Tudalen 19/Page 19** y stoc a gedwir ac nid yn ôl yr aceri. Tŷ bach oedd tŷ [sic] heb ddim ond gardd o dir; yna cawn le cadw buwch (1-10 acer) lle dwy fuwch (-15 acer) lle tair buwch (-20 acer) a chedwid ceffyl yn aml gyda’r rhain. Yna byddai lle 25-30 acer yn lle pâr o geffyle [sic], 40-65 acer yn lle tri cheffyl, 65-80 acer yn lle dau bâr neu 9-10 buwch o wartheg ac yn y blaen, canyd [sic] rhyw 150 acer (= 3 phâr) oedd y ffermydd mwyaf. Neu ceid lle dau was a morwyn, lle tri gwas a chyfrifid y deiliaid hefyd. Yn gyffredin, cadwai lle o 100 acer o dir cymysg ryw 10-12 o wartheg a magu 12 o loi bach, rhyw 5-7 o geffylau a 40 o ddefaid (penddu, Seisnig), heblaw buwch neu ddwy at fagu a moch i’w tewhau. Trinid [sic] rhyw 1/3 o’r tir ar lawer o’r ffermydd a hynny yn ei dro i gyd, ar wahân i rai caeau a gedwid [sic] yn gyson at ‘wair gwndwn’. Y rhod gnydau gyffredin [sic] yw:- porfa - ceirch gwanwyn - efallai’r un peth wedyn am flwyddyn arall - tatw a maip etc. pryd y rhoid dom [sic] iddo - gwenith (gaeaf [sic]) -

**Tudalen 27/page 27** ceisid gwneud y cwbl pan ymwelai’r dyrnwr mawr a’r injan stêm yno yn yr hydref [sic] ac wedyn yn y gwanwyn [sic]. Wrth doi, gwneid y rhaffau o wellt neu bibrwyn – brwyn gwahanol i’r rhai cyffredin ac ni ŵn beth yw’r gair Saesneg amdanynt. Os byddai amser, rhoid gwrach [sic] ar y das yn gyntaf - rhyw hir ffagod o friw-wellt wedi rhoi rheffyn amdano bob troedfedd. Weithiau torrid rhedyn cryfion glas i wneud hyn. Yna, rhoid rhaff [sic] ar hyd drosto a phlethu trwm bleth am y rhaff [diagram â beiro a phensil] - yn fwy o addurn nag o ddim byd arall. Os na fyddai amser, yna, rhoi to hir i lapio dros y drwm heb y gwrach [sic] (gwrywaidd) a thair rhaff i’w ddal. Cyn dod o gortyn rhad y siopau gwneid rhaffau un sgaing (skein) ar hyd canol y pen a rhaff bleth o ddwy sgaing ar y drwm a’r bargod. I gadw’r rhain yn eu lle’r oedd rhaffau’n hongian dros y drwm - rhai pleth dwy sgaing eto - a gelwid hwy’n angorion. Rhoid cap [sic] ar big

**Tudalen 28/Page 28** belem cyn ei thai hi - un wedi ei wneud o frwyn hirion [sic] glas, fynychaf. Cedwid yr angorion uchod yn eu lle naill ai â phriciau [sic] i’r das, neu drwy hongian cerrig trymion wrthynt. [Diagram â beiro.] (f) Da byrgorn sydd fwyaf cyffredin ynghyd a chymysg o rai penwyn – Hereford [sic]. Cofiaf ddysgu’r rhigwm hwn, cyn clywed am fuchod y 5 mil galwyn – Trw di Fach Penwen deg Fagodd beder – Buwch-ar-ddeg; ‘Fagith eto Cyn bo’i farw Beder-buwch- Ar-ddeg a tharw! Yr oedd rhai ffermydd megis Y Graigwen, Ystrad, a’r Tyddyn Du, Dihewyd, yn cadw’n fanwl at dda duon [sic]Cymru. Y beudai a’r bing rhwng dwy res o wartheg wedi eu clymu i wynebu ei gilydd sydd fwyaf cyffredin, a reil

**Tudalen 33/Page 33** Yr oedd fy nhadau, y diweddar Mr W. Jones y Felin Feinog, yn gryn grefftwr ar hyn a gallai ef wneud basged fach ddestlus iawn o wiail drysi (coed mwyar). Delltai’r [sic] rheiny (h.y. eu hollti’n llafnau tenau) cyn eu plethu. Gallai hefyd wneud basged o wellt ceirch a’i rhwymo eto â dellt drysi, yn yr un ffordd ag y gwneir raffia a chen heddiw. Er mwyn gwneud llwyau ac ‘roedd yn rhaid cael cylleth gam i naddu allan bant yn y pren. Diddorol yw sylwi ar y ffordd y rhennid y flwyddyn yn dymhorau ac adegau. Anaml y nodid y mis na’r dyddiad – rhyw ddiwrnod

**Tudalen 34/Page 34** neu wythnos neu naw diwrnod neu bythefnos o flaen rhyw ddydd arbennig neu ar ei ôl y digwyddai pethau. Wedi Dy [sic] Calan, deuai Ffair San Silyn ym Mis Bach; yna Ffair Ddewi (Llanarth) neu Ffair Garon (dyna’r adeg i ddechrau hau ceirch). Yna’r Pasg a Chlame a Ffair Dalis (ddechrau Mai - adeg hau barlys) a phan âi’r da mas y nos. Yr oedd Ffair Sulgwyn yn Llanbedr Pont Steffan ar Fercher y Sulgwyn a Ffair Llanarth yr Haf ar y 22 o Fehefin. Yn hon y gwerthid y da stôr neu dda hestor [sic]. Yn fuan byddai’n gneia [sic] gwair ac yn Awst dôi Dy’ Mercher Mowr [sic] pan geisiai pawb fynd i lan y mor [sic] yn Aberaeron ar un o’r tri hyn yn Awst. Yna’r cneia [sic] Medi a Ffair Dalsarn a Gwylhangel a Ffair Santes yn Llanybydder. Mae bellach yn Glangeia a’r Nadolig bron a dod. Adeg Glangeia bydd gweision a morynion

Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
  Chwyddo / Rhagor o ddelweddau (44)

Pwnc

Bywyd Gwerin

Rhif yr Eitem

MS 91

Historical Associations

Associated Person/Body: Davies, W. Beynon (Aberystwyth)
Association Type: Writer
Dyddiad: 1937
Lle: Cardiganshire

Creu/Cynhyrchu

Davies, W. Beynon (Aberystwyth)

1937

Cyfnod: 1937

Derbyniad

Collected Officially

Deunydd

papur

Categorïau

Holiaduron a llyfrau ateb Amgueddfa Werin Cymru Cardiganshire
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Bywyd Gwerin

Answer book

MS 1941/2
Mwy am yr eitem hon
Bywyd Gwerin

Answer book

MS 1962/4
Mwy am yr eitem hon
Bywyd Gwerin

Answer book

MS 1941/4
Mwy am yr eitem hon
Bywyd Gwerin

Answer book

MS 1941/1
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Y Wefan

  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Ffotograffiaeth a Ffilmio
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
×
❮
❯