Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Answer book
Llythyr,1960, oddi wrth E.T. Price, Llanrhystud, yn amgau dau Lyfr Ateb Amgueddfa Werin Cymru yn cynnwys nodiadau manwl "ar yr arferion cysylltiedig â marw a chladdu fel y cofia i, ac eraill nhw".
Anfonwyd Llyfrau Ateb gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1958 at unigolion ar draws Cymru er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am agweddau o ddiwylliant gwerin yn eu hardaloedd yn cynnwys amaeth, crefftau, bwyd, arferion a thafodiaith. Mae’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw yn y llyfrau. Roedd y Llyfrau Ateb yn ddilyniant i’r holiaduron a anfonwyd ym 1937.