Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Postcard
Cerdyn post gyda darlun o fenyw mewn gwisg Gymreig ar y blaen. Marc post 17 Ionawr 1911.
Cyfrannodd cardiau post fel hyn at boblogrwydd 'y wisg Gymreig'. Cafodd miloedd ohonynt eu gwerthu fel cofroddion. Roedden nhw’n dangos y Ladi’n yfed te, yn darllen y Beibl neu’n gwehyddu ger ei bwthyn. Y nod oedd dangos mai lle croesawgar a pharchus oedd Cymru. Yn ddi-os, cyfrannodd y cardiau post hyn at y syniad fod y wisg Gymreig yn symbol cenedlaethol.