Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Penrhyn Quarry, photograph
Injan stêm a wagenni o flaen y ‘gwaith llwch’, Ponc Red Lion, Chwarel Penrhyn. Mae’r ffotograffau yn dangos y ‘gwaith llwch’ (a sefydlwyd yn wreiddiol yn y 1920au) – ymgais Chwarel Penrhyn i wneud elw o’r miloedd o dunnelli o wastraff llechi. Dyma engraifft o ddefnydd amrywiol llechi h.y. nid yn unig ar gyfer toi. Mae’r ddau weithiwr yn y ffotograff yn anhysbys. Mae’r olygfa yma bellach wedi newid yn llwyr yn sgil datblygiad y chwarel, ac o ganlyniad i dân yn adeilad y gwaith llwch.