Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tri Ffigwr ar lefel gyda du (Darlun mur IV)
Ganed Baumeister yn Stuttgart lle cafodd ei hyfforddi i fod yn addurnwr ac yn beintiwr. O 1908 yr oedd yn gyfeillgar â'r arlunydd a'r dylunydd Oskar Schlemmer, ac ar y cyd ag ef cynlluniodd furluniau ar gyfer yr arddangosfa Werkbund ym 1914. Cafodd y cyfansoddiad haniaethol-ffigyrol hwn ei greu gyda murlun mewn golwg. Yn hollol nodweddiadol, mae'n defnyddio haenau ac effeithiau persbectif i fynegi lle. Rhoddodd Baumeister y gwaith i'r arlunydd Ffrengig Fernand Léger.