Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
P.S. BRITANNIA, half hull ship model
Rhod-long ager o 459 o dunelli gross a adeiladwyd gan McKnight & Co., Ayr ym 1896 ar gyfer cwmni P. & A. Campbell. Am lawer o flynyddoedd hon oedd prif long llynges P. & A. Campbell, er iddi newid ei golwg allanol nifer o weithiau dros y blynyddoedd. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, defnyddiwyd hi fel minesweeper ym Môr y Gogledd, tra yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n cario gynnau i saethu awyrennau uwchben yr Afon Tafwys. Bu'n rhedeg am y tro olaf ym mis Medi 1956, a chafodd ei thorri i fyny yng Nghasnewydd ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno.
P.S. BRITANNIA. Built in 1896 by S. McKnight & Co., Aire. She was renamed HMS Briton during World War I and HMS Skiddaw during World War 2. (1896-1956).
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.