Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Trevithick's Penydarren locomotive
Yn 1804 tynnodd honno lwyth trên o ddeg tunnell o haearn a nifer o deithwyr o Ferthyr Tudful i lawr i Abercynon. Y daith hanesyddol honno oedd y cyntaf y gwyddys amdani yn y byd gan injan stêm symudol a bu'n gyfrwng i ddechrau defnyddio stêm at ddibenion cludo ar reilffyrdd Prydain. I goffau'r digwyddiad hanesyddol adeiladodd yr Amgueddfa yn 1982 replica yn union yr un faint ag injan Trevithick ac mae hon hefyd yn rhedeg ar stêm. (Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984).