Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Grave lantern
Llusern bedd Carl Minett o Aberfan. Roedd Carl yn saith mlwydd oed pan laddwyd e yn ei ystafell ddosbarth yn Ysgol Gynradd Pantglas, Aberfan ar 21 Hydref 1966. Lladdwyd Marylyn, ei chwaer ddeg oed hefyd. Yn dilyn y drychineb, cafodd teuluoedd yr ymadawedig lusernau bedd yn rhodd gan gwmni lleol i'w gosod ar feddi eu hanwyliaid. Mae teulu Marylyn a Carl Minett yn cofio mynwent Aberfan wedi ei goleuo gyda'r nos gan ganhwyllau'r llusernau yn cynrychioli y bywydau a gollwyd.