Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Rhedeg i Ffwrdd gyda'r Torrwr Gwallt
Ganed yr arlunydd yng Nghymru a bu'n astudio yng Nghaerdydd, Caerloyw a Llundain cyn dod yn ôl i fyw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae ei luniau'n ymwneud â'r cof, emosiwn a phrofiad yn hytrach nag â digwyddiadau penodol. I ddechrau, gwnaeth lun tywyllach, hanner hyd, o ddyn ar ei ben ei hun, a'r thema waelodol oedd 'gadael eich gorffennol ar ôl'. Mewn gwrthgyferbyniad â'r syniad hwn, sy'n 'ddifrifol, neu hyd yn oed yn rhodresgar', mae'r arlunydd o'r farn fod'Rhedeg i Ffwrdd gyda'rTorrwr Gwallt' yn cyfleu teimlad o "ymgollwng am eiliad i fod yn anghyfrifol... amheuaeth aeddfed o syniadau mawreddog ieuenctid".