Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Adelina Patti (1843-1919)
Ganed Adelina Patti (1843-1919) ym Madrid a'i magu yn Efrog Newydd. Perfformiodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn 'Lucia di Lammermoor 'gan Donizetti ym 1859. Daeth yn fuan yn un o gantorion opera rhyngwladol enwocaf ei dydd. Ym 1878 prynodd Graig y nos, castell neo-Gothig i'r gogledd o Abertawe ac ychwanegodd dŷ opera at y lle. Mae'r portread hwn o tua 1873-75 yn dangos Madame Patti mewn gwisg sglefrio. Mab i beintiwr tirluniau o Hwngari oedd Karoly Marko. Yn 1838 aeth gyda'i dad i'r Eidal ac ym 1884 symudodd i Rwsia.