Buildings in Naples with the North-East side of the Castel Nuovo
Astudiaethau Jones o Napoli oedd ei gyfraniad mwyaf arbennig a gwreiddiol at y traddodiad braslunio olew, a dyma'r cyntaf ohonyn nhw. Roedd e'n gweithio ar deras to ei lety gyferbyn â'r Dogana del Sale ar y pryd.
Y tu hwnt i'r adeilad gyda"i ddillad yn sychu gwelir wal a thŵr Castel Nuova a adeiladwyd yn y 13eg ganrif i'r chwith, a rhan o do a rhodfa'r Palas Brenhinol i'r dde. Mae coed y Largo del Castello'n sefyll rhwng y ddau, ac mae cromenni dwy eglwys a llusern y drydedd ar y gorwel.
Mae archwiliadau golau is-goch wedi dangos y tanluniadu helaeth sef brasluniau Jones o'r prif ffurfiau pensaernïol.
Creu/Cynhyrchu
1742-1803
Thomas Jones, a pupil of Richard Wilson, came from a wealthy landowning family in Radnorshire. During his lifetime he was known as a painter of landscapes and history paintings in the style of his master, but today he is better known for his oil sketches of Italy and Wales.
Daeth Thomas Jones, oedd yn un o ddisgyblion Richard Wilson, o deulu o dirfeddiannwyr cyfoethog yn Sir Faesyfed. Yn ystod ei fywyd cafodd ei adnabod fel peintiwr tirluniau a pheintiadau hanesyddol yn null ei feistr, ond heddiw mae’n fwy adnabyddus am ei frasluniau olew o’r Eidal a Chymru
Rôl: Artist
Cyfnod: 1782
Derbyniad
Purchase, 2/7/1954
Mesuriadau
Uchder
(cm): 22
Lled
(cm): 29.1
Uchder
(in): 8
Lled
(in): 71
h(cm) frame:32.2
h(cm)
w(cm) frame:39
w(cm)
d(cm) frame:5.6
d(cm)
Techneg
Oil on paper
Techniques (fine art)
Art dept - fine
Fine Art - painting