Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Coed Ffawydd yng Ngolau'r Lleuad
Ganed Evans yn Llandaf, Caerdydd ac ym 1913 symudodd ei deulu i Rutherglen yn yr Alban. Bu'n astudio yn Ysgol Gelf Glasgow. Daw'r darlun hwn o ddyluniad ym 1930, wedi ei beintio mewn tempera ar banel. Mae'n ei gofio fel: 'Gwaith haniaethol o natur delynegol...Wrth gerdded gyda'r nos yn Rutherglen byddwn yn aml yn mynd heibio i goedydd ffawydd. Daw'r naws hydrefol a lliw'r darlun (yn ogystal â cherfwedd ariannaidd llyfn y boncyffion a lliw brown cras dail yr hydref) o'r coed ffawydd hyn yng ngolau'r lloer'.