Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Postcard
a postcard sent from The International Prisoner's Acency in Geneva informing Eli Evans that they're in receipt of his letter and will make every effort to obtain information on the whereabouts of his son
Cerdyn post gan yr Asiantaeth Carcharorion Ryngwladol yng Ngenefa, yn hysbysu Eli Evans eu bod wedi derbyn ei lythyr ac y byddant yn gwneud popeth posibl i ddarganfod ble mae ei fab. Brodor o Gaerdydd oedd yr Is-lefftenant Arthur Wellesley Rees Evans (1898 – 1965) a ymunodd â’r Corfflu Hedfan Brenhinol ym mis Awst 1917. Diflannodd ar 21 Hydref 1918, tra’n hedfan i Köln gyda’r Lefftenant R. W. L. Thomson yn goruchwylio. Cafodd ei ddal a’i garcharu yng Ngwersyll Carcharorion Rhyfel Limburg yn yr Almaen. Derbyniodd ei dad, Eli Evans, nifer o lythyron am ei ddiflaniad. Dychwelodd Wellesley i Gaerdydd ar 10 Rhagfyr 1918.