Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Cerdyn bychan a ddosbarthwyd mewn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ar 5 Gorffennaf 1918 i goffáu hawliau pleidleisio i fenywod. Ar y tu blaen mae llun a gyhoeddwyd yn wreiddiol yng nghylchgrawn Punch yn dangos menyw yn sefyll gyda baner â'r geiriau 'Woman's Franchise'. Oddi tano, ceir y geiriau 'AT LAST!'. Ar gefn y cerdyn mae rhestr o enwau'r siaradwyr gwadd, gan gynnwys Arglwydd Faer Caerdydd, Mrs Henry Fawcett, Mrs Oliver Strachey a Mrs Coombe-Tennant.