Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Rocky landscape with herdsmen and cattle
Yn y tirlun hwn, mae clogwyni serth a choed cam yn codi'n ormesol dros y bugeiliaid islaw. Mae tirluniau Salvator Rosa'n wyllt ac yn dywyll iawn. Anwybyddai'n llwyr y galw am brydferthwch delfrydol, fel y gwelir yn nhirluniau Claude a Poussin. Fe'i gwnaed yn arwr ym Mhrydain yn y ddeunawfed ganrif oherwydd natur nwyfus a dadleuol ei fywyd, a chafodd ei waith gryn ddylanwad ar artistiaid eraill, yn enwedig y Cymro enwog, Richard Wilson.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.