Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae’r priflythrennau o dan y pig a’r arfbais ar y cefn yn perthyn i Robert Wynne (1732-1798), perchennog ystâd Garthewin yn Llanfair Talhaearn, ger Abergele yn Sir Ddinbych. Comisiynodd Wynne yr artist Thomas Gainsborough i baentio portreadau ohono a’i deulu yng nghanol y 1760au, sy’n dyst i’w chwaeth soffistigedig. Mae cynhyrchwr y jwg yn anhysbys. Anaml y gwelir addurn paent oer fel hyn ar lestri Jackfield ac mae’n ddigon posib i’r gwaith gael ei addurno y tu allan i’r ffatri. Mae’n bosibl iddo gael ei gynhyrchu gan grochendy Abertawe, a sefydlwyd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ond gyda Garthewin rai milltiroedd o arfordir Gogledd Cymru mae’n ddigon posibl hefyd taw o Swydd Stafford y daw’r jwg.