Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Dinbych-y-pysgod, Y Traeth
Golygfa o Draeth y Castell yn Nimbych-y-pysgod, un o draethau mwyaf poblogaidd Cymru. Paentiwyd y llun gan Isambard Owen, yn niwedd y 19eg ganrif. Mae Dinbych-y-pysgod wedi newid tipyn ers hynny, ond gallwn ni adnabod y traeth o hyd – er y byddai'n llawn pobl ar ddiwrnod mor braf.
Ganwyd Isambard Owen yng Nghas-gwent, Sir Fynwy, a daeth yn ffigwr pwysig yn niwylliant Cymru. Roedd ei dad yn un o brif beirianwyr Great Western Railway, oedd yn gyfrifol am adeiladu'r rheilffordd drwy dde Cymru.