Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Mae ffotograffau personol yn mynd â ni i fydoedd a gofodau na fyddem fel arfer yn gallu eu gweld. Maen nhw'n mynd â ni i le emosiynol sy'n breifat i ddangos rhywbeth personol i ni am y bobl sydd ynddyn nhw.
Yn Saudi Arabia, mae'n anarferol iawn i ddieithriaid gael caniatâd i fynd i gartrefi Saudi o gwbl, felly roeddwn i'n lwcus iawn i allu gweld y bydoedd preifat hyn. Roedd tynnu lluniau ohonynt yn rhywbeth sensitif iawn: dydyn nhw ddim am i bobl weld eu gofod personol, ac mae'r menywod, yn arbennig, yn breifat iawn. Eto i gyd, roedd y menywod y gwnes i eu cyfarfod eisiau i'r byd y tu allan weld sut maen nhw'n byw, i wybod nad yw eu realiti mor wahanol i weddill y byd ag y gallai rhywun feddwl.
Her baradocsaidd i mi oedd dod o hyd i ffyrdd o ddangos y golygfeydd hyn tra’n diogelu hunaniaeth a phreifatrwydd y menywod, i fod yn agos atoch ac eto i beidio â datgelu eu hwynebau yn llawn." — Olivia Arthur