Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Arenig
Mae'r olygfa liwgar hon yn ynysu'r mynydd yn erbyn awyr llachar. Daeth Innes ar draws Arennig, ger y Bala, ym 1910 ac fe'i peintiodd dro ar ôl tro. Fel y dywedodd ei gyfaill, Augustus John, daeth Arennig yn 'gartref ysbrydol iddo'. Roedd Innes wedi teithio'n helaeth yn ne Ffrainc a defnyddiodd liwiau bras a goleuni clir ardal Môr y Canoldir wrth beintio'i wlad ei hun. Mae symlrwydd y cynllun, y lliwiau llachar gwastad a chanolbwynt y cyfansoddiad hwn, sy'n dyddio o tua 1911, ar batrwm y mynydd yn ein hatgoffa o brintiau Siapaneaidd megis torluniau pren Hokusai o Fynydd Fuji.