Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Astudiaeth Darlunio 3
Mae Terry Setch yn byw ym Mhenarth ac yn cael ei ysbrydoli gan ei gynefin. Mae’n aml yn darlunio’r arfordir lleol.
Ym 1993 cafodd Setch ei gomisiynu gan yr Amgueddfa i baentio golygfa tri-phanel o Fae Caerdydd ar gyfer y bwyty newydd. Cynhyrchodd gyfres o frasluniau paratoadol, gan gynnwys y gwaith hwn.
Mae nodiadau’r artist yn dangos sut yr oedd yn mapio daearyddiaeth y Bae, tra hefyd yn braslunio a chynllunio’r darn gorffenedig.