Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Ganwyd Paul Crespin i deulu Huguenot a ymsefydlodd yn Llundain rywbryd yng nghanol yr 17eg ganrif mwy na thebyg. Dechreuodd fusnes gofannu aur yn Soho ym 1720, gan aros yno tan 1759. Mae'r cwpan hwn yn esiampl hynod o arddull rococo. Tynnwyd arfbais y perchennog gwreiddiol a rhoi arfbais William Lewis Hughes (1767-1835) o Barc Cinmel, Sir Dinbych yn ei le. Gwnaeth Hughes ei ffortiwn o'r mwynfeydd copr ar Ynys Môn gan gael ei urddo yn Farwnig 1af Dinorben ym 1831. Fe brynodd y cwpan mewn cyfnod pan oedd diddordeb o'r newydd yn arddull rococo.