Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Gorsaf Rheilffordd Raglan | Raglan Railway Station
Agorwyd Gorsaf Raglan yn 1876 ar Rheilffordd Colewford, Mynwy, Wysg a Phontypwl i wella mynediad twristiaid i Gastell Raglan - a oedd yn gyrchfan boblogaidd bryd hynny. Mae'r orsaf yn enghraifft brin o'r math o orsaf wledig fach a oedd yn nodwedd gyffredin yng Nghymru wledig. Roedd cyfleusterau'r orsaf yn cynnwys un platfform, iard nwyddau bach a oedd yn cynnwys llwyfan glo a doc llwytho gwartheg. Roedd yr orsaf yn nodweddiadol o orsafau Great Western Railway bryd hynny. Adeiladwyd o frics coch gyda manylion o gerrig tywodfaen a chanopy pren dros y platfform. Roedd yr adeilad wedi'i rannu'n dri phrif ran - swyddfa docynnau, ystafell aros fawr ganolog a gynheswyd a than glo, a swyddfa; gyda estyniadau bach ar bob pen yn cynnwys tai bach i Ferched a Dynion, a storfa. Mae llawer o'r nodweddion gwreiddiol wedi goroesi, megis gwteri dwfn o ddur, bracedi dur bwrw ar gyfer lampiau olew paraffin, ynghyd a'r canopy pren. Er bod yr orsaf yn darparu mynediad i bentref Raglan a'i gastell, roedd nifer y bobl a ddefnyddiau hi yn eithaf bach. Tua 1900, dim ond 10,000 o docynnau a gafodd eu gwerthu. Erbyn 1930, roedd y ffigwr hwn wedi gostwng i 1,190 - sydd yn cyafteb i ond tri cwsmer y dydd. Cadw i ostwng wneath y ffigyrau yma, ac yn y pendraw ceuodd yr orsaf ym mis Mai 1955.