Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Daisy Maynard
“Sut mae byw? Byw bywyd da, os welwch chi rywun ar y stryd sydd ar y llawr, ceisiwch roi help llaw iddyn nhw.” Ganed Daisy Maynard ym mis Tachwedd 1925 yn Basseterre, St Kitts. Daeth i Heol Portmanmoor, Caerdydd. “Roedd gan fy mam wyth ohonon ni... saith o enethod ac un bachgen. Y drydedd ydw i, rwy’n credu...” “Lle o’r enw Brimstone Hill, [St Kitts] pan ewch i fyny yno, mae’r byd i gyd i’w weld o’ch blaen...” “[Pan ddois i yma], tua 19 oed, o leiaf... dod i weld Lloegr oedden ni, ond a dweud y gwir... pan ddois i yma, fe gawson ni ail... doedd hi ddim mor grand â hynny yma.” “[Fy swydd gyntaf] oedd yn Super Oil Seals... os ewch chi yno, dim ond pobl croenliw sydd yno, achos mai dyna’r gwaith oedden nhw’n ei wneud...” “Yna, fe wnes i fynd i Ysbyty Hamadryad [Butetown, Caerdydd]... [yna] roeddwn i fyny yn y Rhath... o’r fan honno... dal i symud ymlaen, Ysbyty Trelái [Lansdowne].” “Mi fuodd gen i lu o ffrindiau erioed, hyd yn oed pan [roeddwn] yn byw yn Trelái, arferwn i fynd i’r dociau a gwneud pethau cymdeithasol.”
Pwnc
Rhif yr Eitem
Historical Associations
Creu/Cynhyrchu
30/09/2019 / 30/09/2019