Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Cyfrannwch
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Cyfrannwch
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Tudalen Hon: Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • Amdanom Ni
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Siop
  • Cefnogwch ni
  • Digwyddiadau
  • Cymryd Rhan
  • Iechyd a Lles

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

On Munitions: Skilled Work

Archibald Standish HARTRICK (Artist)

Ailwampiwyd nifer o ffatrïoedd lleol i ateb y galw cynyddol am arfau. Cwmni 'Briton Ferry Engineering Works 'oedd y cyntaf i gynhyrchu sieliau yn y De. Yn y Gogledd, agorodd y llywodraeth ffatrïoedd yng Nghaernarfon, Porthmadog a Wrecsam. Ffatri arfau fwyaf Cymru oedd honno ym Mhen-bre, Sir Gaerfyrddin. Gan fod dynion yn brin, aeth llawer o'r ffatrïoedd ati i gyflogi menywod. Mae'r printiau hyn yn cofnodi cyfraniad allweddol menywod i'r ymdrech ryfel. Pan alwyd ar ragor o ddynion i ymuno â'r brwydro ym 1915, roedd gofyn i fenywod ysgwyddo'r baich. Cododd lefelau cynhyrchu yn y ffatrïoedd a'r ffermydd wrth i fenywod wneud gwaith fyddai'n draddodiadol yn waith y dyn. Er bod cryn dipyn ohono'n waith llafurus a pheryglus, cafodd llawer o fenywod ryddid newydd, a chyfle i ddangos eu dawn a'u gallu mewn meysydd a reolwyd cyn hynny gan ddynion. Anfonwyd Hartrick i wneud brasluniau yn y fan a'r lle, ac mae llawer o'r cyfansoddiadau yn fwriadol eu hystum a'u hosgo - yn lluniau "gwneud". Delweddau propaganda ydyn nhw heb arlliw o'r caledi a'r peryglon a wynebai'r menywod o ddydd i ddydd. Ganwyd yr artist a'r darlunydd Hartrick yn India a'i fagu yn yr Alban cyn mynd ati'n wreiddiol i astudio meddygaeth. Wedi troi at gelf, mynychodd Ysgol Gelf Slade, Llundain, ac ysgolion celf Paris, gan arddangos yn Salon Paris 1887. Roedd yn un o sylfaenwyr Clwb Senefelder ym 1909. Trodd ei law at ddysgu hefyd, gan gyhoeddi'r gyfrol ganllaw 'Lithography As A Fine Art' ym 1932. Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals', gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.

Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
 Chwyddo

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 13209

Creu/Cynhyrchu

Archibald Standish HARTRICK

1917

Rôl: Artist
Cyfnod: 1917

Derbyniad

Gift, 19/2/1919
Given by H. M. Ministry of Information

Deunydd

Ink
Paper

Categorïau

Gweithiau ar bapur Celf Gain Bywyd cyfoes Ffatri Ôl 1900 Rhyfel Byd Cyntaf, y Rhyfel Mawr
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Celf

Boiler Room of a Battleship

NMW A 13284
Mwy am yr eitem hon
Celf

On Board a Battle-cruiser (H.M.S."Lion")

NMW A 13280
Mwy am yr eitem hon
Celf

A Fallen Tree

NMW A 18671
Mwy am yr eitem hon
Celf

Tailpiece for "In Parenthesis"

NMW A 2769
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Y Wefan

  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Ffotograffiaeth a Ffilmio
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
×
❮
❯