Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Ffrog Laura Ashley a wnaed yn ffatri'r cwmni yng Ngharno yn y 1970au. Symudodd Laura Ashley i ganolbarth Cymru ac agor ffatri yng Ngharno ym 1963. Wrth i’r cwmni fynd o nerth i nerth, cyflogodd fwy a mwy o fenywod lleol. Roedd gan Laura Ashley bedwar o blant, felly roedd hi’n deall yr angen am oriau gwaith oedd yn gyfleus i deuluoedd. Roedd mamau yn cael gweithio llieiniau sychu llestri, menyg ffwrn a smocs yn y cartref. Pan oedd y plant yn yr ysgol, roedden nhw’n gweithio clogynnau a ffrogiau yn y ffatri.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.