Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Cadair a gyflwynwyd i'r bardd D. Gwenallt Jones (1899-1968) yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926. Mae'r gadair yn un o ddwy a gafwyd eu llunio yn Shanghai. Dyma'r enghraifft gyntaf (mae'r llall yn dyddio i 1933). Credir i'r gadair gael ei saernio yng ngweithdai crefft amddifaty Gatholig T'ou-se-we, ar gyrion Shanghai. Rhoddwyd y gadair yn wobr yn yr Eisteddfod gan Gymdeithas Dewi Sant Shanghai. Ganwyd y bardd Gwenallt yn 1899 yn Alltwen, Cwm Tawe. Roedd yn heddychwr ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd ei garcharu am fod yn wrthwynebwr cydwybodol. Daeth yn adnabyddus am ei farddoniaeth wedi iddo ennill am ei awdl 'Y Mynach' yn Eisteddfod Abertawe 1926. Bu'n ddarlithydd Cymraeg yn yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth o 1927 hyd ei ymddeoliad.