Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Pâr o lewys lliain gwyn. Gyda lastig wrth y penelin a botwm wrth y cyffiau. Gwisgwyd gan Elizabeth Radcliffe, The Court, Sain Ffagan, fel nyrs yn Ysbyty VAD y Groes Goch Sain Ffagan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Agorwyd yr ysbyty ar dir Castell Sain Ffagan ym 1916. Trigolion lleol oedd y rhan fwyaf o’r nyrsys. Yn eu plith oedd rhai o forynion Iarll ac Iarlles Plymouth, perchnogion y castell. Cyn y rhyfel, roedd Elizabeth yn gweithio fel nyrs fagu i deulu cefnog yng Nghaerdydd. Bu farw tri o’i brodyr ar faes y gad.