Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Gweithwyr ar y Stryd
DAUMIER, Honoré (1808-1879)
Gweithiwr yn ysmygu cetyn, â chaib dros ei ysgwydd sy'n hoelio'r sylw ym mhaentiad Daumier. Mae'n syllu braidd yn drwynsur ar ŵr cefnog yr olwg mewn het silc. Roedd Daumier yn Realydd a sylwebydd cymdeithasol didostur. Mae'r paentiad hwn yn adlewyrchu'r ymdeimlad o anniddigrwydd a fodolai rhwng y bourgeoisie cyfoethog a'r dosbarth gweithiol.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.