Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Gŵyl Gymunedol, Llundain DU
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Fe wnes i broject bach ddiwedd y 1970au ar wyliau cymunedol yn Llundain. Ar y pryd roeddwn yn ymwneud â grŵp o'r enw Exit yn gweithio ar broject mawr am dlodi canol dinas, ac roedd tynnu lluniau gwyliau stryd yn falm: ysgafnhau ychydig, cael hwyl a bod yn rhyfedd. Doedd gen i ddim uchelgais fawr ar gyfer y lluniau; roedden nhw’n rhan o archwiliad parhaus o Loegr a chyhoeddwyd rhai ohonynt mewn cylchgrawn ffotograffig bach ond dylanwadol, Creative Camera, yn ogystal â rhai cylchgronau diddordeb cyffredinol eraill. Mae amser yn mynd heibio, ac yn gynharach eleni dewisodd rhywun y llun yma o gasgliad braidd ar hap o brintiau, nad oedd llawer ohonynt erioed wedi'u digido, yn archif Magnum London. Roedd hyn ar gyfer arddangosfa yn Brighton. Fe wnaeth hyn fy synnu, yna edrychais ar y llun eto a meddwl nad yw'n rhy wael mewn gwirionedd, mewn gwirionedd mae'n eithaf diddorol a braidd yn rhyfedd, felly dyna pam mae yma, ddeugain mlynedd ar ôl i mi ei dynnu." — Chris Steele-Perkins