Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae Edward Goodman yn gwisgo cap sgwâr a mantell sgarlad ag ymyl ffwr, dillad addas i fasnachwr llewyrchus. Mae ei bortread yn llawn symbolau sy'n cyfeirio at gredoau Protestannaidd newydd y cyfnod. Yn ei law mae sgrôl â’r arysgrif ‘fferen pawb yn i galon’. Mae hyn yn cyfeirio at gred craidd y Protestaniaid y dylai pob Cristion gael addoli Duw yn uniongyrchol, yn hytrach na thrwy offeiriad. Mae dau arwyddair hefyd yn ymddangos ar yr ochr dde ar y top: ‘HEB DDVW HEB DDIM/ DVW A DIGON’ (h.y., ‘mae Duw yn ddigon’). Dilynir hyn gyda 'BE HVMBL AND MEEKE/ SOBRE IVSTE PIE’ (’Bydd wylaidd a gostyngedig/ Yn sobr, teg a duwiol’).