Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Mam bedair ar hugain oed a phlentyn sy’n llwgu, Biaffra
Tynnodd Don McCullin y llun hwn tra ar aseiniad ar gyfer y Sunday Times Magazine. Cafodd ei anfon i ddogfennu rhyfel Biaffra, lle bu farw miliwn o bobl dros gyfnod o dair blynedd. Arweiniodd y rhyfel at newyn ac afiechyd eang, a amlygir yn y portread dirdynnol hwn o fam, sydd ond yn 24 oed, yn ceisio bwydo ei phlentyn bach ar y fron. Mae hi'n ymddangos yn urddasol, yn syllu'n uniongyrchol i lens y camera. Mae ei mynegiant amrwd yn gorfodi’r gwyliwr i ddeall erchyllterau rhyfel a’i effaith ddinistriol ar bobl gyffredin.