Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Halswell House, Gwlad yr Haf
RICHARDS, John Inigo (1731-1810)
Roedd Richards yn un o aelodau sylfaenol yr Academi Frenhinola byddai'n arddangos yno'n rheolaidd. Ef oedd y prif beintiwr golygfeydd yn Covent Garden 1777-1803 a gwnaeth nifer o ddarluniau o dai bonedd. Cafodd Halswell ei adeiladu ar gyfer Syr Halswell Tynte ym 1689. Mae'r olygfa hon o'r tŷ· a'r Parc yn cynnwys y deml Baladaidd gron a elwid y Rotunda, a rholiwr gardd a dynnid gan geffyl. Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif sylwodd un ymwelydd fel yr oedd y parc yn rhoi golygfa wych o'r 'Sianel...a Steep Holm yn codi'n falch o'r canol, a thu hwnt fynyddoedd Cymru yn codi y naill ar ôl y llall.' Ym 1740 etifeddwyd Halswell House gan Charles Kemeys-Tynte o Gefnmabli, Morgannwg.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.