Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Lluniwyd y tirlun hafaidd delfrydol hwn o'r caeau rhwng Brynsiencyn a Dwyran ym Môn. Mae'r bryniau yn y blaendir yn cuddio Afon Menai ond mae tref Caernarfon a'r castell i'w gweld yn y canoldir. Tu ôl i'r castell mae Mynydd Mawr, ac yn y cefndir i'r chwith mae llethrau Moel Eilio. Cafodd y Brawdoliaeth Gyn-Raffaelaidd, ac ysgrifau eu cefnogwr enwocaf, John Ruskin, ddylanwad mawr ar Brett. Roedd Brett wedi ymweld ag Ynys Môn ym 1866 a 1867 tra'n ddi-briod ond ym 1875 treuliodd dri mis yng Ngogledd Cymru gyda'i wraig a'i deulu ifanc a gwnaeth nifer o astudiaethau pensel a phaentiadau olew o Gaernarfon a'r golygfeydd ar lannau Afon Menai.