Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Solva
HODGKINS, Frances (1890-1947)
Magwyd Frances Hodgkins yn Seland Newydd a threuliodd lawer o’i bywyd yn Ffrainc a Lloegr.
Mae’n adnabyddus am ei thirluniau lliwgar, braidd yn haniaethol, a’i harddull unigryw. Tra’r oedd yn Ffrainc, cafodd ei dylanwadu gan Ffofyddiaeth – arddull feiddgar newydd o baentio gan artistiaid fel Henri Matisse.
Ymwelodd â phentref Solfach ym 1936, a’i ddisgrifio fel tirwedd o ddyffrynnoedd serth, afonydd chwim a chestyll oedd yn edrych fel mynyddoedd.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.