Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Roedd Daniell yn ddisgybl i'w ewythr Thomas, ac ym 1799 aeth i Ysgolion yr Academi Frenhinol. O 1802 bu'n canolbwyntio ar olygfeydd ym Mhrydain. Bu yng Nghymru ym 1807 a gwnaeth frasluniau ar gyfer nifer o weithiau olew, gan gynnwys hwn a welwyd yn yr Academi Frenhinol ym 1812. Adeiladwyd Conwy, un o'r cestyll gorau yng Nghymru, gan Edward I o 1284 ymlaen. Roedd yr harbwr islaw yn un o'r prif borthladdoedd ar gyfer allforio cynnyrch amaethyddol lleol. Newidiwyd golwg y castell pan godwyd pont grog Telford dros Afon Conwy ym 1822-26.