Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tirlun gyda Gwartheg
Mae'r llun gwledig hwn o ddyn yn hel gyr o wartheg yng ngholau addfwyn y machlud, yn nodweddiadol o waith diweddarach Troyon. Er mai peintiwr porslen ydoedd i ddechrau, aeth ymlaen i dderbyn hyfforddiant academaidd a chreu peintiadau fwyfwy naturiolaidd wedyn. Roedd lluniau Troyon o anifeiliaid yn hynod boblogaidd ymysg casglwyr. Gellir ei ystyried yn arlunydd cyn-Argraffiadol hyd yn oed, oherwydd ei ffordd o ymdrin â golau.