Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Abernodwydd farmhouse
Ffermdy ffrâm bren, to gwellt, wedi'i godi ym 1678 ar ffurf neuadd agored gyda thân yng nghanol y llawr ac yn agored i'r to.
Addaswyd y tŷ ym 1708 trwy adeiladu lle tân ac iddo gefn cerrig a simnai ffrâm bren, a chynnwys llawr uchaf, gan ddyblu'r lle y tu mewn i'r tŷ, fwy neu lai.
Mae'n nodweddiadol o dai ffrâm bren y Canolbarth a'r Gororau o ran ei gynllun a'i adeiladwaith, gyda'r lle tân ger yr unig ddrws. Mae'r waliau wedi'u gosod ar blinth garreg isel rhag i'r trawstiau bydru. Llanwyd y paneli rhwng y coed â phlethwaith o rodenni cyll a dwb clai. Lloriau pridd sydd iddo. Mae ansawdd y dodrefn a welir yn y tŷ yn adlewyrchu'r ffaith fod safon byw yn uwch yn y rhan hon o Faldwyn yn y 18fed ganrif nag y byddai ymhellach i'r gorllewin ar dir uwch a thlotach.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.