Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae'r tebygrwydd rhwng y llun hwn a phortreadau wedi'u llofnodi o wraig a merch y dyn sydd yn y llun yn awgrymu mai Fellowes a beintiodd ef, ym 1751. Yn ôl y nodyn ar gefn y llun William Vaughan (~1707-1775) o Gorsygedol, Sir Feirionnydd, yw'r gwrthrych. Hanai o hen deulu, disgynyddion honedig o un o wardiaid Llywelyn Fawr. Cafodd ei addysg yng Nghaergrawnt, bu'n AS yn Sir Feirionnydd, ac ef hefyd oedd 'Prif Lywydd' cyntaf Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion. O Nannau, ger Dolgellau, y daeth y llun hwn.