Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Gwrogaeth i Beethoven
Cafodd marwolaeth Dylan Thomas ym 1953 effaith fawr ar Richards a chynhyrchodd gyfres o weithau marwnad i'r bardd. Mae'r cyfansoddiad alegorïol hwn yn deyrnged i un arall o arwyr yr arlunydd, Ludwig van Beethoven. Mae'n cyfosod dwy hoff thema. Y naill yw merch yn troi oddi wrth y piano a'r corn Ffrengig at ddalen o gerddoriaeth, a'r llall yw pâr o geffylau'n carlamu, sy'n dod yn wreiddiol o 'Hela Llew 'gan y peintiwr Ffrengig Rhamantaidd Eugéne Delacroix (1798-1863).