Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Yr Wyddfa o Feddgelert
Roedd David Cox yn ffigwr blaenllaw yn oes aer paentio dyfrlliw ym Mhrydain, y cyfnod tua dechrau'r 19eg ganrif pan roedd cyfyngiadau teithio adeg rhyfel yn gorfodi artistiaid fel Cox a Turner i archwilio'r dirwedd ar eu stepen drws. Roedd y braslun bach hwn yng nghasgliad Kyffin Williams. Mae'n bosib iddo gael y darlun wedi i waith y ddau artist gael ei arddangos gyda'i gilydd yn Oriel Gelf Glynn Vivian ym 1959. Yn sicr, roeddent ill dau'n artistiaid a ddiffiniodd y canfyddiad poblogaidd o Gymru drwy eu celfyddyd.